Cofnodion cyfarfod y Grŵp Trawsbleidiol ar Undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol (PCS) a gynhaliwyd ddydd Mawrth 30 Ionawr yn Ystafell Giniawa 2, rhwng 12.30pm a 1.30pm

Yn bresennol:  Mike Hedges AS (Cadeirydd); Heledd Fychan AS (Is-Gadeirydd); Ryland Doyle (aelod o Staff Cymorth Mike Hedges); Helen West (aelod o Staff Cymorth Julie Morgan); Siân Boyles (PCS); Doug Jones (PCS); Jayne Smith (PCS); Darren Williams (PCS).

 

1.       Croeso ac ymddiheuriadau

Agorodd Mike y cyfarfod, gan groesawu’r rhai a oedd yn bresennol. Nid oedd unrhyw Aelod o’r Senedd wedi anfon ymddiheuriadau, ond nid oedd Marianne Owens o sefydliad PCS yn bresennol yn sgil salwch.

 

2.       Busnes y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Daeth Darren Williams i’r gadair i ddechrau Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y grŵp. Gofynnodd am enwebiadau ar gyfer rolau’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd. Cafodd Mike a Heledd eu henwebu, yn y drefn honno, ar gyfer y rolau hynny, a chawsant eu hethol yn briodol. Yna, ailgydiodd Mike yn yr awenau fel Cadeirydd y grŵp.

Roedd y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd wedi cael llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau Ymddygiad, yn atgoffa'r Grŵp o'i gyfrifoldebau llywodraethu. Roedd un o'r cyfrifoldebau hynny bellach wedi'i gyflawni drwy gynnal y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol. Y cam nesaf oedd sicrhau bod y gwaith papur cysylltiedig yn cael ei ffeilio gyda'r Swyddfa Gyflwyno mewn modd amserol. Byddai’r ddogfennaeth berthnasol ynghylch y cofnodion, yr adroddiad blynyddol a'r busnes ariannol yn cael ei chwblhau dros yr wythnos ganlynol, cyn cael ei dychwelyd i'r Swyddfa Gyflwyno er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r safonau gofynnol.

Er mwyn sicrhau amserlen reolaidd o gyfarfodydd ar gyfer gweddill y flwyddyn galendr gyfredol, cytunodd y grŵp y dylid pennu dyddiadau ymlaen llaw ar gyfer tymor y gwanwyn a thymor yr hydref.

Camau i’w cymryd:PCS i ffeilio'r holl bapurau angenrheidiol gyda'r Swyddfa Gyflwyno a chytuno ar ddyddiadau ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol gydag aelodau'r Grŵp.

 

3.       Anghydfod cenedlaethol y PCS mewn perthynas â chyflogau, pensiynau, swyddi a hawliau o ran dileu swyddi

Enillwyd cyfres o gonsesiynau mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU, gan gynnwys taliad costau byw o £1,500 i gydnabod effaith chwyddiant dros y 12 mis blaenorol. Roedd bron pob un o gyflogwyr Whitehall wedi gwneud y taliad hwn. Yna, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i wneud yr un peth, penderfynodd holl gyflogwyr datganoledig Cymru wneud taliad hefyd. Yr olaf ohonynt oedd Comisiwn y Senedd (a dalodd yr arian mewn dau randaliad), ac Archwilio Cymru, a oedd bellach wedi dod o hyd i’r arian i wneud taliad o’r fath.

Roedd y consesiynau eraill a gafwyd yn cynnwys ymrwymiad i gynnal sgyrsiau â PCS ynglŷn â mynd i’r afael â lefelau cyflog isel, hyrwyddo lefelau cyflog cydlynol er mwyn mynd i’r afael â gwahaniaethau rhwng adrannau, a chryfhau mesurau i osgoi sefyllfaoedd o ddileu swyddi. Mae’r trafodaethau hyn bellach yn mynd rhagddynt.

Yn ogystal â’r consesiynau hyn, cafwyd ffigur cylch gwaith uwch gan y Trysorlys ar gyfer 2023/24 – rhwng 4.5 y cant a 5 y cant – ac roedd cyflogwyr yn y rhan fwyaf o feysydd wedi gweithredu yn unol â’r ffigur hwn neu wedi rhagori arno. Ar sail y datblygiadau hyn, cafwyd balot ymhlith yr aelodau ynghylch oedi unrhyw gamau pellach fel rhan o’r anghydfod tra bod trafodaethau ar lefel y DU yn parhau i gael eu cynnal â Swyddfa'r Cabinet. Roedd pwyllgor gweithredol cenedlaethol (NEC) PCS yn bwriadu cynnal cyfarfod yn yr wythnos ganlynol i bwyso a mesur y cynnydd a phenderfynu a ddylid lansio pleidlais arall er mwyn adnewyddu mandad streic yr undeb, yn ogystal â llunio hawliad cyflog cenedlaethol newydd ar gyfer 2024/25. Yn y cyfamser, byddai Mark Serwotka yn ymddiswyddo fel Ysgrifennydd Cyffredinol ar 31 Ionawr, oddeutu 23 mlynedd ar ôl ei ethol am y tro cyntaf, a byddai Fran Heathcote yn ei olynu ar y diwrnod canlynol – y fenyw gyntaf i wasanaethu fel Ysgrifennydd Cyffredinol PCS.

Er gwaethaf y cynnydd cyffredinol sy’n cael ei wneud, mynegwyd pryder ynghylch datganiadau gan Weinidogion yn Llywodraeth y DU i’r perwyl bod lefelau staffio’r Gwasanaeth Sifil yn parhau i fod yn rhy uchel, ac y byddai’r lefelau hyn yn dychwelyd i’r lefelau a welwyd cyn COVID. Felly, roedd yr undeb yn paratoi am doriadau posibl mewn swyddi.

Y mater arall a godwyd ar lefel y DU oedd y Ddeddf Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol), a fyddai’n cyfyngu ar allu aelodau’r PCS yn Llu’r Ffiniau i gymryd camau diwydiannol cyfreithlon. Bwriad yr undeb yw cymryd camau cyfreithiol i herio’r ddeddfwriaeth hon, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd gan Mark Serwotka yn ystod y rali i nodi 40 mlynedd ers y gwaharddiad ar aelodaeth undeb ym Mhencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU yn Cheltenham dros y penwythnos.

Cam gweithredu: mae angen cadw golwg ar y sefyllfa hon ar hyn o bryd, ond mae'n bosibl iawn y bydd PCS yn gofyn am gefnogaeth gan aelodau'r Grŵp Trawsbleidiol wrth i'r sefyllfa ddatblygu.

 

4.       Y wybodaeth ddiweddaraf am gyflogau yn y sector datganoledig yng Nghymru

O ran y cylch cyflogau blynyddol ar gyfer 2023/24, roedd Llywodraeth Cymru wedi cwblhau ei thrafodaethau ym mis Medi drwy gynnig cynnydd cyffredinol o 5 y cant. Ar ôl cyfnod o oedi, roedd wedi anfon llythyr cylch gwaith at y cyrff hyd braich yn nodi’r canlyniad hwn ac yn eu hannog i'w ddyblygu. Mae mwyafrif y cyrff hyd braich bellach wedi negodi dyfarniad sy’n adlewyrchu dyfarniad Llywodraeth Cymru, er nad yw Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi dechrau trafodaethau ynghylch cylch cyflog 2023/24, ddeg mis ar ôl dechrau’r flwyddyn ariannol.

 

5.       Pryderon yn codi yn sgil cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024/25

Rhannodd undeb y PCS ei bryderon ynghylch y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ar 19 Rhagfyr. Roedd yr undeb yn cydnabod y sefyllfa anodd yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu yn sgil yr erydiad yng ngwerth real ei chyllideb, ac roedd yn parhau i gefnogi fformiwla ariannu decach i Gymru. Er hynny, roedd yr undeb yn pryderu’n fawr ynghylch goblygiadau toriadau swyddi posibl ymhlith ei aelodau a thoriadau i’r gwasanaethau a ddarperir ganddynt.

Staff ac ystadau Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru, fel cyflogwr, wedi ymrwymo i sicrhau arbedion sylweddol. Mae’n ceisio rhesymoli ei hystâd, yn y lle cyntaf, yn rhannol er mwyn lleihau'r effaith ar swyddi. Roedd y penderfyniad i gau’r swyddfa ym Medwas eisoes wedi'i gyhoeddi, a disgwylir i gyhoeddiadau ynghylch nifer o safleoedd eraill ddilyn yn fuan. Yn gyffredinol, roedd yr undeb yn croesawu’r dull gweithredu hwn. Mae’r ffaith nad oes unrhyw orfodaeth ar staff i fynychu gweithleoedd yn y cnawd (yn wahanol i ddull Llywodraeth y DU) yn golygu na ddylai cau swyddfeydd fod yn broblem yn gyffredinol. Roedd lefelau presenoldeb eisoes yn isel iawn mewn rhai swyddfeydd. Serch hynny, disgwylir toriad sylweddol mewn niferoedd staffio, ac ar hyn o bryd, nid yw’n glir i ba raddau y gellid cyflawni hyn drwy 'wastraff naturiol'.

Mae’r undeb ar hyn o bryd yn herio gofyniad Llywodraeth y DU fod staff yn mynd i’w swyddfeydd o leiaf dri diwrnod yr wythnos.  Yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol, lle na fu unrhyw ofyniad o ran presenoldeb yn flaenorol, mae’r PCS yn symud tuag at bleidlais ar weithredu diwydiannol mewn perthynas â chynlluniau i’w gwneud yn ofynnol bod staff yn bresennol yn eu swyddfeydd am 40 y cant o’u horiau gwaith o fis Ebrill ymlaen, yn dilyn y symudiad i 20 y cant ym mis Ionawr. Ers y cyfnodau clo a welwyd yn ystod y pandemig, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyflogi staff ar y ddealltwriaeth y byddai'n ofynnol iddynt fynd i’w swyddfa 'gartref' dim mwy nag unwaith y flwyddyn. Roedd llawer o'r bobl hyn yn byw yn bell o'r swyddfeydd dan sylw.

Cynhaliodd y grŵp drafodaeth ynghylch sut y gellid rheoli effaith y broses o gau swyddfeydd er mwyn osgoi niwed gormodol i staff – p'un a ydynt am barhau i weithio gartref neu am fynd i weithle penodol – ac i economïau lleol ledled Cymru.

Y sector diwylliant

Yn sgil y gyllideb, mae Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chwaraeon Cymru yn wynebu toriadau o 10.5 y cant. Ymddengys y bydd Chwaraeon Cymru yn gallu amsugno’r toriad. Fodd bynnag, mae’r undeb yn pryderu am yr effaith ar yr Amgueddfa a’r Llyfrgell, gyda’r ddau sefydliad yn bwriadu torri nifer sylweddol o swyddi. Maent wedi lansio cynlluniau diswyddo gwirfoddol, ac nid ydynt wedi diystyru’r posibilrwydd o ddiswyddiadau gorfodol. Nid yw’r Llyfrgell wedi rhannu ei gynlluniau ehangach ar gyfer ailstrwythuro hyd yn hyn, ond mae’r Amgueddfa'n ystyried opsiynau amrywiol ar gyfer sicrhau arbedion, gan gynnwys newidiadau posibl i delerau ac amodau’r staff, yn ogystal ag ailgyflwyno rhyw fath o system o godi tâl ar ymwelwyr. Mae degawd o danariannu wedi cael effaith fawr, ac mae canghennau undeb y PCS yn y ddau faes hyn wedi lansio ymgyrch i wrthsefyll y toriadau. Maent yn bwriadu cysylltu ag Aelodau o’r Senedd i ofyn am gefnogaeth yn y cyfnod cyn y bleidlais derfynol ar y gyllideb.

Dywedodd Heledd ei bod eisoes wedi cael gohebiaeth gan staff yr Amgueddfa am y toriadau.  Anogodd y canghennau i gysylltu â hi i ofyn am gefnogaeth i’w gwaith ymgyrchu. Roedd Heledd a Mike yn teimlo y byddai'r cam o ailgyflwyno tâl am fynediad yn debygol o fod yn wrthgynhyrchiol yn y tymor hir.

TUC Cymru a WULF

Yn ogystal, cyhoeddwyd y byddai cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer TUC Cymru a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yn cael ei dorri 26 y cant. Mae TUC Cymru yn cynnal cynllun ymadael gwirfoddol (VES) i leihau ei niferoedd staffio mewn ymateb i’r toriad. Mynegwyd pryderon ynghylch yr effaith ar hyfywedd cronfa WULF, a oedd wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn y gweithle, gan helpu pobl i uwchsgilio ac i adleoli pan oedd eu swyddi dan fygythiad. Dros y 23 mlynedd flaenorol, mae undeb y PCS wedi cefnogi tua 24,000 o ddysgwyr, ac mae prosiectau wedi’u cynnal yn ddiweddar mewn cymunedau at ddibenion darparu sgiliau cyflogadwyedd. Er y bydd yn rhaid cwtogi rhai prosiectau, ymddengys y bydd pob prosiect yn gallu parhau. Ar hyn o bryd, ymddengys na fydd angen i’r undebau dorri unrhyw un o'r swyddi a ariennir gan gronfa WULF.

Cam i’w gymryd:Bydd PCS yn cydlynu llythyr gan aelodau o’r sector diwylliant at Aelodau o’r Senedd, yn gofyn iddynt gefnogi ymdrechion i ddiogelu swyddi a gwasanaethau rhag effaith y toriadau. Bydd PCS hefyd yn rhoi gwybodaeth i’r Grŵp am unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â’r toriadau yn gyffredinol.

 

6.       TUC Cymru – y Siarter Iaith

Mae TUC Cymru wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Chymdeithas yr Iaith at ddibenion cefnogi’r Gymraeg yn y gweithle, hyrwyddo cyfleoedd i ddysgu’r iaith, gwarchod hawliau presennol gweithwyr i ddefnyddio’r Gymraeg a chefnogi’r broses o gyflwyno hawliau newydd dros amser. Mae undebau a chyflogwyr yn cael eu hannog i fanteisio ar y 'Cynnig Cymraeg', sy’n helpu sefydliadau i ddatblygu polisi priodol ar yr iaith Gymraeg ac sy’n gweithredu fel nod barcud, drwy ddangos bod y sefydliad dan sylw yn cefnogi hunaniaeth ddwyieithog Cymru. Mae PCS wedi bod yn gweithio ar hyn ochr yn ochr â TUC Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg, ynghyd â nifer o gyrff eraill, gan gynnwys Cyngor Sir Ynys Môn, Cyngor Gwynedd, Cyngor Sir Gâr, Cyfoeth Naturiol Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae’r undeb yn ceisio cynyddu'r gwasanaethau y mae'n eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg, ac am nodi lle mae ei aelodau dwyieithog yn gweithio ac yn byw.

Croesawodd Mike a Heledd y fenter hon. Gwnaethant nodi, serch hynny, nad yw’n ymddangos bod y Senedd ei hun wedi’i chynnwys yn y rhestr o sefydliadau sy’n cymryd rhan.

Cam i’w gymryd:Heledd i godi’r mater hwn drwy gynrychiolydd Plaid Cymru ar Gomisiwn y Senedd.

 

7.       Unrhyw Fater Arall

Mae’r undeb yn y broses o weithredu penderfyniad a wnaed yn y gynhadledd, sef y dylai polisïau ar faterion datganoledig gael eu gwneud yn y dyfodol gan strwythurau democrataidd o fewn y gwledydd datganoledig eu hunain. Cynhaliwyd cynhadledd gyntaf PCS Cymru ym mis Hydref, ac roedd disgwyl i’r etholiadau uniongyrchol ar gyfer Pwyllgor Gwaith newydd Cymru ddod i ben o fewn y dyddiau nesaf.

Roedd anghydfod diwydiannol wedi codi yn yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) dros ymdrechion yr Adran i glirio’r ôl-groniad o brofion gyrru a oedd wedi dod i’r amlwg yn ystod cyfnod y pandemig, a hynny erbyn diwedd mis Mawrth. Y cynllun oedd gwneud hyn drwy orfodi arholwyr i gynnal 150,000 o brofion ychwanegol, ac mae’n glir bod hwn yn fater iechyd a diogelwch i staff y DVSA ac aelodau o'r cyhoedd. Bwriad PCS, felly, oedd bod aelodau’r undeb yn mynd ar streic mewn canolfannau prawf ledled Prydain ar 8/9/10/11 Chwefror, gan gynnwys tua 20 o ganolfannau yng Nghymru. Mynegodd Mike a Heledd eu cefnogaeth ar gyfer y gweithgarwch hwn.

Cam i’w gymryd:PCS i rannu manylion ynghylch y llinellau piced pan fyddant ar gael. Yna, Mike a Heledd i rannu'r rhain gyda'u grwpiau priodol.